Y Grŵp Trawsbleidiol ar Reilffyrdd
18 Chwefror 2015: Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Cyfarfod i drafod Trydaneiddio Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru
Cadeirydd: Mick Antoniw
Aelodau'r Cynulliad yn bresennol:
Aled Roberts
Lesley Griffiths
Keith Davies
Ann Jones
Mark Isherwood
Llyr Gruffydd
Darren Millar
Antoinette Sandbach
Siaradwyr a phobl eraill oedd yn bresennol:
Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Uchelgais Economaidd a Chymunedol, Cyngor Sir Ddinbych
Y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Arweinydd Cyngor Conwy.
Cyflwyniadau gan Rebecca Maxwell a Dilwyn Roberts yn sôn am waith partneriaeth sy'n digwydd ar hyn o bryd rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr i foderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru a oedd yn cyfeirio at y materion a ganlyn:
(i) Pam mai trydaneiddio rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ddylai fod y flaenoriaeth drafnidiaeth nesaf - manteision economaidd a chymdeithasol
(ii) Beth fydd y broses benderfynu - yn y pen draw'r Adran Drafnidiaeth a'r Trysorlys fydd yn gyfrifol am hyn, ond bydd y gwaith sydd ar fin cael ei gyhoeddi gan Network Rail a'r tasglu trawsbleidiol ar drydaneiddio yng ngogledd Lloegr yn cael effaith arno.
(iii) Pam fod angen gwrthod cynllun rhannol (trydaneiddio i Gaer, o Crewe/Warrington - tystiolaeth o anfantais economaidd sylweddol i economi genedlaethol y DU a'r economi leol.
Ar ôl cwestiynau a thrafodaeth, cytunwyd i anfon llythyr ar y cyd gan y grŵp trawsbleidiol at y Gweinidog yn codi pryderon a materion a chroesawu'r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y mater hwn i economi gogledd Cymru.
Ni wnaethpwyd na dderbyniwyd unrhyw gyfraniad ariannol tuag at gost y cyfarfod hwn.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Reilffyrdd
4/2/2014
Dros e-bost:
Mick Antoniw
Byron Davies
Jocelyn Davies
Aled Roberts
Nid yw'r Grŵp wedi cyfarfod yn ystod y cyfnod 2013/14.
Mae'r Grŵp yn awr yn ailgynnull.
Cytunwyd mai Mick Antoniw fydd Cynullydd / Gadeirydd y Grŵp.
Nid oes unrhyw dreuliau ariannol neu gyfraniadau.